Mae newid yn yr hinsawdd byd-eang yn effeithio ar bawb. Ystyrir mai hwn yw’r bygythiad amgylcheddol mwyaf difrifol i’n planed.
Mae’r DU wedi ymrwymo i Brotocol Kyoto, cytundeb rhyngwladol sydd â’r nod o gyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a lleihau newid yn yr hinsawdd.
Mae nifer o fentrau yn bodoli er mwyn annog busnesau i ddefnyddio tanwydd ffosil yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau o nwyon tŷ gwydr. Mae’r mentrau hyn fel a ganlyn:
- ardoll newid yn yr hinsawdd
- cytundebau newid yn yr hinsawdd
- lwfansau cyfalaf uwch
- cynllun masnachu allyriadau
- rhwymedigaeth tanwydd cludiant adnewyddadwy
- ymrwymiad i leihau carbon.
Hyd yn oed os nad effeithir arnoch gan y mentrau hyn, mae pethau y medrwch eu gwneud er mwyn lleihau effaith eich busnes ar yr hinsawdd. Gall hyd yn oed newidiadau bach yn eich dull o weithredu helpu i wneud gwahaniaeth.
Am wybodaeth ynghylch y rhwymedigaeth tanwydd cludiant adnewyddadwy, gweler cyfarwyddyd NetRegs ar biodanwydd.
Gweler tudalen deddfwriaeth y dyfodol NetRegs am wybodaeth ynghylch yr ymrwymiad i leihau carbon.