Mae cannoedd lawer o rywogaethau o chwyn ymledol yn y DU. Mae llysiau’r dial, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog yn gyffredin dros ben a’r rhain yw’r rhywogaethau mae eich busnes fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hwy.
Beth yw chwyn ymledol?
Nid yw chwyn ymledol yn rhai brodorol i’r DU ac maent yn achosi llawer o broblemau. Medrant:
- ddisodli rhywogaethau brodorol y DU
- leihau bioamrywiaeth
- greu rhwystrau ar lwybrau troed, llwybrau seiclo a llwybrau halio camlesi
- chwalu concrid a tharmac
- gwneud difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd a sefydlogrwydd glannau afonydd
- niweidio iechyd pobl ( yn arbennig yr efwr enfawr)
Mae’r tudalennau hyn yn canolbwyntio ar lysiau’r dial, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog.
Yn y ganllaw hon: