Beth yw asesiad cylch oes?

    Mae asesiad cylch oes (LCA) yn arf rheoli. Mae’n eich caniatáu i gasglu a phwyso a mesur gwerth data ynghylch y mewnbynnau ac allbynnau o ddeunyddiau, ynni a gwastraff sy’n gysylltiedig â chynnyrch dros ei gylch oes cyfan. Trwy ei ddefnyddio gallwch gyfrifo effaith bosibl cynnyrch ar yr amgylchedd.

    Fel enghraifft, os yw eich busnes yn gwneud peiriannau golchi, bydd LCA yn eich helpu i werthuso:

    • y deunyddiau crai sydd arnoch eu heisiau er mwyn gwneud y peiriant
    • ei ddyluniad, ee p’un ai yw’n effeithlon o safbwynt ynni a dŵr
    • yr adnoddau sydd arnoch eu hangen a’r gwastraff a gaiff ei greu tra bydd yn cael ei wneuthur a’i osod at ei gilydd
    • sut caiff ei farchnata, gan gynnwys dyluniad unrhyw ddeunydd lapio
    • sut caiff ei gludo a’i werthu
    • sut y gwaredir ef.

    Yna, medrwch ddarganfod sut i leihau cymaint ag a ellir ar yr effaith gyffredinol a gaiff eich cynnyrch ar yr amgylchedd. Er enghraifft, medrech roi newidiadau ar waith a fyddent yn cynnwys:

    • defnyddio deunyddiau crai y gellir eu hailgylchu
    • gwella effeithlonrwydd ynni y cynnyrch
    • lleihau deunydd lapio.

    Yn y ganllaw hon: