Llygredd aer o ffwrneisi, bwyleri a choelcerthau

Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gyfer busnesau sy’n llosgi:Llygredd aer o ffwrneisi, bwyleri a choelcerthau

  • tanwydd mewn ffwrneisi neu fwyleri
  • deunydd gwastraff yn yr awyr agored, gan gynnwys ar ffermydd, safleoedd adeiladu a safleoedd dymchwel.

    Os yw unrhyw weithgarwch llosgi ar eich safle yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwsans, gall eich cyngor lleol eich gorfodi i roi’r gorau i’r gweithgarwch. Os ydych yn  methu â gwneud hyn, medrid eich dirwyo. Ar ben hyn, gall unrhyw un a effeithir gan y niwsans fynd yn uniongyrchol at y llysoedd i ofyn am orchymyn i’w atal.

    Bydd y cyfarwyddyd hwn yn ddefnyddiol yn ogystal os ydych yn gwneud gweithgarwch sy’n achosi mwg du ac ni chynhwysir y gweithgarwch fel rhan o broses neu osodiad a reoleiddir o dan un o’r canlynol:

    • caniatâd amgylcheddol neu eithriad (Cymru a Lloegr)
    • caniatâd atal a rheoli llygredd (PPC) (Gogledd Iwerddon a’r Alban)
    • Rheoli llygredd aer lleol (Gogledd Iwerddon a’r Alban).

    Yn y ganllaw hon: