A yw’r dyletswydd o ofal yn berthnasol i chi?

Os oes gennych fusnes, mae’r dyletswydd o ofal yn berthnasol i chi.

Caiff gwastraffau masnachol, diwydiannol ac o aelwydydd (gan gynnwys gwastraffau peryglus/arbennig) eu dosbarthu fel ‘gwastraff wedi’i reoli’. Mae’r dyletswydd o ofal yn berthnasol i bob gwastraff wedi’i reoli. Golyga hyn y caiff defnyddiau gwastraff a gynhyrchir fel rhan o’ch busnes neu o fewn eich gweithle eu rheoleiddio o dan y gyfraith.

Os ydych yn cynhyrchu neu’n ymdrin â gwastraff sy’n meddu ar nodweddion peryglus penodol, bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau gwastraff peryglus/arbennig yn ogystal.

Ar hyn o bryd caiff ffrwydron a’r rhan fwyaf o wastraffau ymbelydrol eu hepgor o’r dyletswydd o ofal.

Ar hyn o bryd ni chaiff sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a gwastraffu arlwyo eu trin fel gwastraff wedi’i reoli at ddibenion y dyletswydd o ofal. Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau NetRegs ynghylch sgîl-gynhyrchion anifeiliaid neu cysylltwch â’ch rheolydd amgylcheddol.

Fel rheol caiff gwastraff domestig ei gasglu gan eich cyngor lleol.

Yng Nghymru a Lloegr, mae gan berchentywyr ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol er mwyn sicrhau fod unrhyw wastraff o dai a gynhyrchir ganddynt hwy ar eu heiddo yn cael ei drosglwyddo i berson neu gludwr wedi’i awdurdodi. Byddai hyn yn cynnwys busnesau hurio sgipiau neu unrhyw un sy’n cymryd gwastraff oddi wrthych.

Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, mae perchentywyr wedi’u heithrio rhag y dyletswydd o ofal ar gyfer gwastraff o dai a gynhyrchir ganddynt. Fodd bynnag, mae’r dyletswydd o ofal yn berthnasol os yw perchentywyr yn dymuno gwaredu:

  • gwastraff nad yw’n dod o’u heiddo hwy h.y. gwastraff o’u gweithle
  • gwastraff a gynhyrchwyd gan rywun arall e.e. crefftwr yn gweithio yn eu heiddo.

Rhaid i  rai gwastraffau penodol beidio â chael eu trin fel gwastraff cartref, ee gall gwastraff asbestos sy’n deillio o aelwyd gael ei ddosbarthu fel gwastraff diwydiannol.

Yn y ganllaw hon: