Rhaid i chi gwblhau nodyn trosglwyddo gwastraff (WTN) ar gyfer pob llwyth o wastraff rydych yn ei drosglwyddo i eraill.
Mae WTN yn dangos cludwyr a gweithredwyr safleoedd sy’n trafod eich gwastraff beth maent yn ymdrin ag ef er mwyn iddynt fedru ei reoli’n ddiogel ac yn gyfreithlon.
Mae WTNs hefyd yn sicrhau bod llwybr archwilio clir o’r amser pryd cynhyrchir y gwastraff tan iddo gael ei waredu.
Rhaid i chi gadw copïau o’ch holl WTNs am ddwy flynedd o leiaf medru eu dangos os gofynnir amdanynt i’ch rheolydd amgylchedd neu gyngor lleol, neu gallech gael eich dirwyo.
Rhaid i chi wirio fod unrhyw un rydych yn trosglwyddo eich gwastraff iddynt yn dal y cofrestriad, trwydded neu eithriad addas ar gyfer y math o wastraff rydych yn trosglwyddo iddynt.
Pwy gaiff ddelio â’ch gwastraff?
Beth yw nodyn trosglwyddo gwastraff?
Mae WTN yn ddogfen sy’n manylu ynghylch trosglwyddo gwastraff o un person i berson arall.
Rhaid i bob trosglwyddiad o wastraff gael ei rychwantu gan WTN. Nid oes WTN safonol. Mae llawer o gludwr gwastraff yn cynhyrchu eu fersiynau eu hunain. Gallwch lawrlwytho a defnyddio’r enghraifft hon o WTN.
Enghraifft o nodyn trosglwyddo gwastraff (Adobe PDF – 29KB)
Pa wybodaeth ddylai nodyn trosglwyddo gwastraff ei gynnwys?
Rhaid i WTN gael ei gwblhau a’i lofnodi gan y sawl sy’n anfon y gwastraff a’r sawl sy’n ei gasglu. Rhaid iddo gynnwys digon o wybodaeth am y gwastraff fel y gellir ei drafod yn ddiogel a naill ai ei adennill neu waredu’n gyfreithlon. Rhaid iddo gynnwys disgrifiad cywir o’r gwastraff ac unrhyw brosesau y bu’r gwastraff drwyddynt. Os nad ydych yn rhoi digon o wybodaeth a chaiff eich gwastraff ei gamreoli o ganlyniad i hynny, gallech gael eich erlyn.
Rhaid i’r wybodaeth ar y WTN gynnwys:
- disgrifiad o’r gwastraff
- sut caiff y gwastraff ei ddal neu ei lapio
- faint o’r gwastraff sydd
- lle, dyddiad ac amser y trosglwyddo
- enwau a chyfeiriadau'r ddau barti
- manylion caniatâd, trwydded neu eithriad y sawl sy’n derbyn y gwastraff
- y cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd (EWC) ar gyfer eich gwastraff.
Mae codau’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd (EWC) yn dosbarthu defnyddiau gwastraff yn ôl beth ydynt a sut cânt eu cynhyrchu. Weithiau, gelwir hyn y cod rhestr gwastraffau. Mae’r codau’r un peth ledled y DU.
Asiantaeth yr Amgylchedd: Fersiwn gyfunol o’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd (Adobe PDF - 162KB)
Tocynnau tymor nodyn trosglwyddo gwastraff
Ar gyfer trosglwyddiadau ailadroddus gallwch ddefnyddio ‘tocyn tymor’. Un nodyn trosglwyddo yw hyn sy’n gallu cwmpasu trosglwyddiadau lluosol dros gyfnod o 12 mis.
Gallwch gytuno i ddefnyddio tocyn tymor os yw pob un o’r canlynol yn aros yr un peth:
- mae’r partïon sy’n ymwneud â’r trosglwyddiad (cynhyrchwr y gwastraff a chludwr y gwastraff neu’r busnes gwaredu gwastraff)
- disgrifiad o’r gwastraff sy’n cael ei drosglwyddo
- y lle ble caiff y gwastraff ei drosglwyddo o un person i rywun arall.
Dylech amcangyfrif cyfanswm pwysau’r gwastraff dros y cyfnod o 12 mis ar y nodyn trosglwyddo gwastraff (tocyn tymor).
Os yw unrhyw rai o’r amodau hyn yn newid, bydd angen i chi ysgrifennu nodyn trosglwyddo gwastraff newydd.
Pwy ddylai gwblhau’r nodyn trosglwyddo gwastraff?
Mae WTN yn ddogfen ar y cyd rhwng y ddau barti sy’n ymwneud â throsglwyddo’r gwastraff. Ni ddylech fyth ddibynnu ar gludwyr gwastraff neu gontractwyr rheoli gwastraff i ddisgrifio eich gwastraff ar eich rhan. Fel y cynhyrchwr, chi sydd yn y sefyllfa orau i ddisgrifio eich gwastraff yn gywir. Nid yw’n dderbyniol i ddefnyddio ymadroddion amhenodol, er enghraifft, ‘gwastraff cyffredinol', ‘llaid i’w daflu’ neu 'wastraff anadweithiol'.
Rhaid i chi a chludwr y gwastraff lofnodi’r WTN cyn i’w gwastraff adael eich safle. Os ydych yn cludo gwastraff eich hunan, rhaid i chi a gweithredwr y safle gwblhau a llofnodi’r WTN.
Rhaid i chi gadw copïau o bob WTNs am ddwy flynedd o leiaf..
Cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
Gwnewch wiriadau (archwiliadau) o bryd i’w gilydd i’ch helpu i sicrhau fod eich gwastraff yn cael ei drafod yn gywir o’r amser mae’n gadael eich eiddo i’r pwynt terfynol pryd caiff ei adennill neu ei waredu. Bydd hyn yn eich helpu, yn ogystal, i brofi eich bod yn cydymffurfio â’ch dyletswydd o ofal.
Nodiadau trosglwyddo gwastraff electronig
Ar hyn o bryd mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhoi nodiadau trosglwyddo gwastraff electronig ar brawf yn ne ddwyrain Lloegr.
Asiantaeth yr Amgylchedd: system electronig i ddilyn trywydd gwastraff
Dogfennau trosglwyddo gwastraff peryglus/arbennig
Os oes gan eich gwastraff nodweddion peryglus, rhaid i chi ei drin fel gwastraff peryglus. Gelwir hyn yn wastraff arbennig yn yr Alban. Gelwir y ddogfen trosglwyddo ar gyfer gwastraff peryglus/arbennig yn nodyn anfon. Bydd angen i chi gwblhau nodyn anfon er mwyn cydymffurfio â’ch dyletswydd o ofal.
Rhaid i’r nodyn anfon gynnwys gwybodaeth debyg i WTN. Nid oes angen i chi gynhyrchu WTN ar wahân ar gyfer gwastraff peryglus/arbennig.
Symud a chludo gwastraff peryglus
Symud a chlud gwastraff arbennig
Rhaid i’r nodyn anfon gynnwys y cod cywir o’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd ar gyfer y math neu fathau o ddefnydd rydych yn ei waredu.
Asiantaeth yr Amgylchedd: Fersiwn gyfunol o’r Catalog Gwastraff Ewropeaidd (Adobe PDF - 162KB)
Asiantaeth yr Amgylchedd: Catalog Gwastraff Ewropeaidd
Gallwch anfon gwastraff peryglus/arbennig i gyfleusterau trin gwastraff sydd wedi’u hawdurdodi i’w gymryd yn unig.
Rhaid i chi sicrhau fod gwastraff rydych yn ei gynhyrchu’n ysbeidiol (er enghraifft defnyddiau nad oes mo’u hangen, gwastraff o lanhau colledion) wedi’i ddatgan ar nodiadau trosglwyddo gwastraff. Mae’n bosibl bydd rhaid trafod rhywfaint o hyn fel gwastraff peryglus/arbennig.
Yn y ganllaw hon
Beth yw’r ddyletswydd o ofal?
Pwy gaiff ddelio â’ch gwastraff?
Cofnodion ar gyfer trosglwyddo gwastraff: nodiadau trosglwyddo gwastraff
Storio gwastraff
Cludo a gwaredu gwastraff
Gwybodaeth bellach am y ddyletswydd o ofal
Deddfwriaeth dyletswydd o ofal