Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i fusnesau sy’n storio olew ar eu heiddo. Mae olew’n cynnwys:
petrol
- disel
- olew gwresogi canolog
- olew ireidio
- olew mwnau
- olew llysiau a phlanhigion
- olewau trwm megis bitwmen
- olewau a ddefnyddir fel toddyddion, megis paraffin neu gerosîn
- olew gwastraff.
Pam fod yn rhaid i chi storio olew’n ofalus
Atal llygredd
Mae olew’n rhoi cyfrif am dros chwarter o’r holl ddigwyddiadau o lygredd yn y DU. Mae llawer o ddraeniau’n arwain yn uniongyrchol i afonydd, nentydd neu lynnoedd. Os ydych yn caniatáu i olew fynd i mewn i’r draeniau hyn, caiff yr un effaith â’i arllwys yn uniongyrchol i mewn i’r cwrs dŵr.
Mae olew’n wenwynig y bysgod a bywyd gwyllt arall ac mae’n mygu planhigion. Medrai dim ond dau litr o olew achosi llygredd difrifol i’r cyfaint o ddŵr croyw sydd ei angen er mwyn llenwi pwll nofio o faint Olympaidd a’i wneud yn amhosibl i’w yfed.
Osgoi cael eich erlyn a chostau glanhau
Gallwch gael eich erlyn a’ch dirwyo os bydd olew o’ch safle yn mynd i mewn i’r ddaear neu gyrsiau dŵr. A medrech orfod talu costau glanhau sylweddol. Cynllunnir y Rheoliadau Storio Olew er mwyn atal colledion olew.
Help the environmental regulators develop good practice guidance that you can use to manage and reduce the risk of pollution from your fuel storage.
Respond to the consultation on Pollution prevention guideline (PPG) 7: safe operation of refuelling facilities by 4 November.
You can also comment on PPG22: dealing with spills until 22 October.
Yn y ganllaw hon: