Pecynnu

Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau pecynnu os yw eich busnes yn gwneud, llenwi, gwerthu neu drin pacediadau neu ddeunyddiau pecynnu.

Pecynnu Os yw eich busnes yn cynhyrchu neu drin deunyddiau pecynnu ac yr ydych yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau gallech gael eich erlyn a’ch dirwyo.

Mae’r rheoliadau gwastraff pecynnu yn sicrhau fod busnesau yn gyfrifol am adennill ac ailgylchu gwastraff pecynnu y DU.

Mae dwy set o reoliadau y gall fod angen i chi gydymffurfio â nhw:

Mae’r Rheoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) yn berthnasol i chi os yw eich busnes yn gwneud cynhyrchion wedi’u pecynnu, neu’n rhoi deunydd pecynnu neu nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad.

Mae’r Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb y Cynhyrchwr (Gwastraff Pecynnu) yn berthnasol i chi os yw eich busnes yn trin mwy na 50 tunnell o ddeunydd pecynnu mewn blwyddyn ac mae ganddo drosiant o fwy na £2 filiwn.

Yn y ganllaw hon: