Gofynion Hanfodol: beth sy’n ofynnol

Nod y Rheoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) yw i leihau faint o ddeunydd pecynnu gwastraff a gynhyrchir yn ei darddle a sicrhau y gall deunydd pecynnu gael ei ailddefnyddio, ei adennill neu ei ailgylchu.

Pwy sy’n rhaid cydymffurfio

Rhaid i’ch busnes gydymffurfio â’r Rheoliadau Gofynion Hanfodol os ydych yn:

  • gwneud nwyddau wedi’u pecynnu
  • dylunio neu ragnodi deunydd pecynnu
  • mewnforio nwyddau wedi’u pecynnu neu bacediadau wedi’u llenwi i mewn i’r DU
  • gwerthu nwyddau wedi’u pecynnu neu bacediadau wedi’u llenwi
  • gosod deunydd pecynnu neu nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad.

Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol ni waeth beth fo trosiant eich busnes a pha faint o ddeunydd pecynnu a gynhyrchir, a drinnir neu a lenwir.

Os yw eich busnes yn trin mwy na 50 tunnell o ddeunydd pecynnu y flwyddyn ac mae ganddo drosiant o fwy na £2 filiwn, bydd angen i chi, yn ogystal i gydymffurfio â’r Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb y Cynhyrchwr.

Pwy sy’n gorfodi’r Rheoliadau Gofynion Hanfodol?

Cymru, Lloegr a’r Alban

In England, Scotland and Wales the Essential Requirements are enforced by the trading standards departments of local councils.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, caiff y Gofynion Hanfodol eu gorfodi gan yr Adran Menter, Masnach a Buddsoddi.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud

O dan y Gofynion Hanfodol, rhaid i chi:

  • Lleihau pwysau a chyfaint deunydd pecynnu (yn ddarostyngedig i ddiogelwch, glanweithdra a beth sy’n dderbyniol i’r cwsmer).
  • Sicrhau y gall deunydd pecynnu gael ei adennill. Rhaid i rywfaint o’r deunydd pecynnu, neu’n cyfan ohono, fedru cael ei ailgylchu, neu gael ynni wedi’i adennill ohono, neu gael ei gompostio neu ei ailddefnyddio. Gweler y dulliau o adennill deunydd pecynnu isod.

Dulliau o adennill deunydd pecynnu

  • Cynhyrchwch ddeunydd pecynnu y gellir ei ailddefnyddio trwy gynyddu faint o barhad sydd ynddo.
  • Sicrhewch fod gan ddeunydd pecynnu yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd ar ôl ei waredu.
  • Sicrhewch y caiff deunydd pecynnu ei wneuthur fel ei fod yn cynnwys y lefelau lleiaf posib o sylweddau peryglus.
  • Sicrhewch nad yw y cyfaint o gadmiwm, mercwri, plwm,  a chromiwm chwefalent, neu unrhyw gyfuniad o’r metelau trwm hyn, yn fwy na 100 rhan y filiwn (rhyf) yn ôl pwysau. Mae’r terfynau hyn yn berthnasol i ddeunydd pecynnu plws unrhyw gydrannau pecynnu, wedi’u cyfrifo fel uned gyfan. Er enghraifft, nid oes angen i gydrannau fel caeadau gwrdd â’r terfynau hyn yn annibynnol.

Cadwch gofnodion

Rhaid fod gennych dystiolaeth fod eich deunydd pecynnu yn cydymffurfio â’r Gofynion Hanfodol. Rhaid i chi gadw tystiolaeth am o leiaf bedair blynedd o’r dyddiad y rhoddwyd y deunydd pecynnu ar y farchnad am y tro cyntaf.

Chi gaiff benderfynu sut byddwch yn cadw’r wybodaeth hon. Efallai bydd angen i chi gadw amrywiaeth o fathau o ddogfennau er mwyn sicrhau fod gennych dystiolaeth ar gyfer yr holl ofynion.

Medrech gadw cofnodion o:

  • ddogfennau technegol sy’n bodoli eisoes ynghylch sut y dyluniwyd ac y defnyddir eich deunyddiau pecynnu
  • dogfennau sicrwydd ansawdd sy’n bodoli eisoes
  • dogfennau systemau rheoli amgylcheddol ac archwilio
  • dogfennau mewn perthynas â safonau pecynnu eraill.

Os gofynnir i chi, rhaid i chi ddarparu’r cofnodion hyn ar gyfer eich corff gorfodi o fewn 28 diwrnod.

Dulliau o adennill deunydd pecynnu

Rhaid i’ch deunydd pecynnu fedru cael ei adennill trwy un o’r pedwar dull canlynol:

Ailgylchu deunyddiau

Rhaid i ddeunydd pecynnu gael ei wneuthur fel ei bod yn bosibl i ganran o’r deunydd (yn ôl pwysau) gael ei ailgylchu. Mae’r ganran yn amrywio yn ôl y math o ddeunydd a’r safonau Prydeinig cyfredol. Gallwch brynu’r safonau cyfredol oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig.

Adennill ynni

Rhaid i wastraff pecynnu a fwriedir i ynni gael ei adennill ohono trwy ei losgi gael ei brosesu er mwyn caniatáu i’r cyfaint mwyaf posibl o ynni gael ei adennill. Golyga hyn os byddwch yn llosgi unrhyw wastraff pecynnu, rhaid iddo gynhyrchu mwy o ynni nag a ddefnyddir gan o broses o losgi.

Dylai deunydd pecynnu gynnwys o leiaf 50% o ddeunyddiau organig llosgadwy yn ôl pwysau. Mae deunyddiau organig llosgadwy yn cynnwys papur, pren, cardfwrdd a ffibrau organig eraill.

Compostio

Rhaid i wastraff pecynnu y bwriedir ei gompostio fod yn bydradwy a rhaid iddo beidio ag ymyrryd â chasglu gwastraff na’r broses o gompostio ei hun. Er mwyn iddo fod yn bydradwy rhaid i’r deunydd pecynnu ddadelfennu yn ddeuocsid carbon, bio-màs a dŵr.

Ailddefnyddio deunydd pecynnu

Rhaid i ddeunydd pecynnu y gellir ei ailddefnyddio fedru cael ei ddefnyddio sawl gwaith. Unwaith iddo gyrraedd terfyn ei oes ddefnyddiol, rhaid iddo, yn ogystal, gwrdd â’r gofynion ar gyfer ei adennill a restrir uchod.

Gwybodaeth bellach

Bydd rhai safonau Prydeinig yn helpu i eglurhau y Gofynion Hanfodol. Gallwch ddefnyddio’r rhain er mwyn dangos eich bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’r safonau canlynol yn berthnasol:

  • BS13428:2004 – Lleihau yn y Tarddle
  • BS13429:2004 – Ailddefnyddio
  • BS13430:2004 – Adennill ac ailgylchu deunyddiau
  • BS13431:2004 – Adennill Ynni
  • BS13432:2000 – Compostio a bioddiraddio

Er mwyn prynu’r cyhoeddiadau hyn bydd angen i chi gofrestru gyda Safonau Prydeinig.

Case study: Wine bottling company minimises waste effectively

A wine bottling company in Norfolk implemented a waste minimisation programme to comply with packaging waste regulations and to meet the demand from supermarkets to reduce packaging and labelling costs. They now use less cardboard by standardising packing design, and re-using packing spacers from imported wine bottles for distribution within the UK. They also use less wrapping film by investing in more efficient shrink-wrap machines, and using several sizes of shrink-wrap to match each pack size.

Yn y ganllaw hon: