Tirlenwi

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i fusnesau sy’n cynhyrchu gwastraff maent yn ei anfon i’w dirlenwi, a busnesau sy’n gweithredu safleoedd tirlenwi.

TirlenwiSafle gwaredu gwastraff yw safle tirlenwi lle caiff gwastraff ei gladdu mewn tir neu ei daenu drosto.

Mae hyn yn cynnwys safleoedd sy’n:

  • derbyn gwastraff o ffynonellau allanol
  • cael eu defnyddio gan gynhyrchwyr gwastraff er mwyn gwaredu eu gwastraff eu hunain ar y safle. Mae hyn yn cynnwys tomenni fferm.

Nid yw fel rheol yn cynnwys safleoedd lle :

  • bwriedir i wastraff gael ei waredu, a chaiff ei storio am lai na blwyddyn
  • bwriedir i wastraff gael ei adennill neu ei drin, a chaiff ei storio am lai na thair blynedd
  • caiff gwastraff ei baratoi i’w gludo i’w adennill, ei drin neu ei waredu yn rhyw fan arall.

    Yn y ganllaw hon: