Mae trin gwastraff yn lleihau yr effaith a gaiff ar yr amgylchedd ac yn annog pobl i’w adennill a’i ailgylchu. Rhaid i bob gwastraff gael ei drin cyn i chi ei anfon i’w dirlenwi.
Ceir eithriadau i’r gofyn hwn ar gyfer :
- gwastraff anweithiol nad ellir mo’i drin
- unrhyw wastraff arall ar gyfer y pa un na fyddai triniaeth yn lleihau ei faint neu ei berygl i iechyd dynol a’r amgylchedd
Fodd bynnag, ychydig iawn yw’r achosion lle mae’r eithriadau hyn yn gymwys. Am fwy o wybodaeth yng Nghymru a Lloegr edrychwch ar gwestiynau cyffredinol Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y gwaharddiad tirlenwi.
Pwy sy’n rhaid trin eu gwastraff?
Bydd angen i fusnesau sicrhau fod eu holl wastraff yn cael ei drin cyn ei anfon i’w dirlenwi. Medrwch naill ai drin gwastraff ei hunan, neu sicrhau bydd y sawl a fydd yn dal y gwastraff yn ddiweddarach yn ei drin cyn ei dirlenwi. Gallwch ddewis talu cwmni rheoli gwastraff am y gwasanaeth hwn.
Sut bynnag rydych yn trin eich gwastraff, mae’n syniad da i gynhyrchu datganiad ysgrifenedig. Dylai hwn ddatgan:
- pwy sydd wedi trin y gwastraff
- y math o driniaeth a roddwyd ( os cafodd ei roi)
- faint o wastraff a ddidolwyd er mwyn ei adennill neu ei drin mewn rhyw fodd arall (os yw’n berthnasol).
Medrwch weld enghraifft o ddatganiad ysgrifenedig yn nalen ffeithiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer busnesau ynghylch rheolau tirlenwi.
Beth a ddosbarthir fel triniaeth?
Diffinnir triniaeth fel proses ffisegol, thermol, cemegol neu fiolegol, sy’n newid nodweddion y gwastraff.
Gall y nodweddion gael eu newid drwy:
- leihau cyfaint y gwastraff
- lleihau natur peryglus y gwastraff
- gwneud trin neu adennill yn haws.
Mae enghreifftiau o driniaeth yn cynnwys:
- casglu ffrydiau gwastraff ar wahân er mwyn ailgyl
- triniaeth fiolegol megis compostio neu dreuliad anerobig
- triniaeth thermol megis llosgi
Caiff llawer o wastraff ei drin yn barod cyn iddo gael ei anfon i’w dirlenwi. Yn yr achosion hyn, ni fydd angen i chi newid eich gweithdrefnau cyfredol.
Nid ystyrir fod cywasgu yn driniaeth – mae gan flwch cardbord wedi’i wasgu yr un potensial i effeithio ar iechyd neu’r amgylchedd â’r blwch gwreiddiol.
Pan ydych yn penderfynu sut i drin eich gwastraff dylech ystyried y broses gyfan, o gynhyrchu gwastraff i’r materion ymarferol sydd a wnelont â gwahanol fathau o driniaeth. Er enghraifft, gwiriwch p’un ai yw cyfleusterau lleol yn bodoli ar gyer eich triniaeth ddewisedig ac ystyriwch, ym mhob cam o’r broses, p’un ai ellir dileu unrhyw ffrwd wastraff ai peidio.
Yn y ganllaw hon: