
Mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer busnesau sy’n prosesu bwyd a diod, gan gynnwys
- diodydd a diodydd alcolholaidd
- cynhyrchion popty a melysion
- cynhyrchion llaeth
- prosesyddion grawn
- prydau parod a chynhyrchion coginio- oeri
- cigoedd wedi’u prosesu a chynhyrchion cig
- prosesu bwyd cynradd
- bwyd anifeiliaid anwes
- prosesu bwyd eilaidd, gan gynnwys pobi, rhewi, sychu, canio a photelu.
Sut all prosesu bwyd a diod effeithio ar yr amgylchedd?
Gall busnesau sy’n proses bwyd a diod gael nifer o effeithiau ar yr amgylchedd:
- allyriadau i’r aer, er enghraifft o falu, swmp-drosglwyddo ac awyrellau seilos
- halogiad tir, er enghraifft o sarnu olewau’n ddamweiniol a sut y defnyddiwyd y safle yn y gorffennol
- llygredd sŵn, er enghraifft o symudiadau cerbydau, malu a llinellau pacio
- gwaredu gwastraff, megis cynhyrchion wedi dyddio, plicion, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a llaid cyfarpar elifiant
- gollyngiadau i ddŵr, er enghraifft o gyfarpar elifiant, gollyngiadau damweiniol a thyrrau oeri.
Sut gall NetRegs eich helpu chi?
Medrai ein cyfarwyddyd eich helpu i:
- osgoi cael eich erlyn a derbyn llai o ymweliadau oddi wrth reolyddion amgylcheddol
- cynyddu effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cwtogi ar eich costau gweithredu
- bod yn fwy tebygol o gaffael busnes o gyrff llywodraethol a busnesau mawr sy’n mynnu fod eu partneriaid busnes yn rheoli eu heffeithiau amgylcheddol mewn dull effeithiol
- gwella enw da eich busnes ymhlith y staff, cwsmeriaid a’r cyhoedd
- gwella’r siawns o ennill noddiant er mwyn ehangu eich busnes drwy arddangos fod eich effeithiau ar yr amgylchedd yn cael eu rheoli’n dda.