Ailgylchu olew

Gall ei busnes storio olew gwastraff ar y safle, cyn iddo gael ei gasglu gan gontractwr gwastraff, neu yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru gallwch ei ailddefnyddio fel tanwydd mewn llosgyddion olew gwastraff bach (SWOBs).
Mae busnesau sy’n defnyddio SWOBs yn cynnwys garejys, datgymalwyr cerbydau a gweithdai gorffennu metel.

Mae olewau medrwch eu llosgi mewn SWOBs yn cynnwys olew motor, disel ac olew gwresogi canolog.

Gall olewau arlwyo gwastraff gael eu hailbrosesu yn bio-danwydd megis bio-disel.

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud

Awdurdodiadau i weithredu

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r rhan fwyaf o safleoedd ailgylchu olew, a safleoedd sy’n trin, storio neu losgi olew drwy ddefnyddio SWOBs, angen caniatâd Atal a Rheoli Llygredd (PPC).

Yn yr Alban, os ydych yn defnyddio SWOBs mae angen caniatâd PPC Rhan A arnoch. Rhaid i chi gysylltu â’ch rheolydd amgylcheddol cyn i chi losgi unrhyw olew.

Fel canllaw gyffredinol, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os ydych yn cynhyrchu  mwy na 5000 litr o fio-disel o olewau arlwyo gwastraff, mae eich busnes yn debygol o fod angen caniatâd PPC.

Yn yr Alban, os byddwch yn trawsesteru hyd at 200 tunnell y flwyddyn o olewau arlwyo gwastraff, yn anfasnachol ac nid ar raddfa ddiwydiannol, nid oes angen caniatâd PPC Rhan A arnoch. Cysylltwch â SEPA er mwyn gwirio p’un ai ydych yn gymwys i dderbyn yr eithriad hwn.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os ydych yn gweithredu SWOB gyda mewnbwn thermol o lai na 0.4 megawat, nid oes angen caniatâd cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Llosgi Gwastraff arnoch yn ogystal â’ch caniatâd PPC.
Yn yr Alban, os ydych yn gweithredu SWOB mae arnoch angen caniatâd cydymffurfio â WID  er mwyn gweithredu yn ogystal â’ch caniatâd PPC Rhan A.
Os ydych yn storio, trin, cludo, trafod, adennill, ailddefnyddio neu ailgylchu olew gwastraff neu olew arlwyo gwastraff, rhaid i chi feddu ar drwydded rheoli gwastraff neu eithriad a chwrdd â’ch gofynion o dan y Dyletswydd o Ofal.
Caiff olewau arlwyo gwastraff eu dosbarthu fel sgîl-gynhyrchion anifeiliaid. Rhaid i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau Sgîl-Gynhyrchion Anifeiliaid os ydych yn casglu, storio, trafod, trin neu ailbrosesu olewau arlwyo gwastraff.

Rhaid i chi waredu pob lludw gwastraff o SWOBs yn rheolaidd, gan ddefnyddio bagiau wedi’u selio, llwch-dynn  er mwyn dal y lludw drwy gydol y broses casglu, storio, cludo a gwaredu

Os ydych yn storio, trafod neu drin olewau arlwyo neu olewau llysiau gwastraff rhaid i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau Sgîl-Gynhyrchion Anifeiliaid. Rhaid i chi storio a thrin olewau arlwyo gwastraff ar wahân o bob gwastraff arall. Rhaid i chi storio, trin neu ailbrosesu olewau arlwyo gwastraff yn unig ar wynebau dwrglos, sy’n ddiddos rhag y tywydd , a gedwir dan do, ac nad all anifeiliaid , gan gynnwys adar, gael mynediad iddynt.

Gwastraff peryglus/arbennig

Caiff olewau gwastraff eu dosbarthu fel gwastraff peryglus/arbennig. Rhaid i chi ddilyn rheoliadau ar gyfer delio â gwastraff peryglus/arbennig. Rhaid i chi beidio â gwaredu olew mewn safle tirlenwi ( a gafodd ei ) gofrestru i dderbyn gwastraff diberygl/ heb fod yn arbennig.

Rhaid i chi beidio â gwaredu olew gwastraff i mewn i unrhyw sgip na bin gwastraff. Byddai hyn yn halogi’r holl wastraff o fewn y sgip, y byddai’n rhaid i chi ei drin wedi hynny fel gwastraff peryglus/arbennig. Medrai hyn gynyddu eich costau gwaredu’n sylweddol.

Storio

Rhaid i chi beidio â chymysgu olew gwastraff gydag unrhyw baentiau neu doddyddion. Rhaid i chi beidio â llosgi paent na thoddyddion yn eich SWOB . Peidiwch ag arllwys olew i mewn i ddraen, na’i ganiatáu i halogi unrhyw dir, daear na dyfroedd wyneb (ee nentydd, afonydd neu burns) nac aer. Lleolwch eich cyfleusterau storio a SWOB mor bell i ffwrdd o gyrsiau dŵr â phosib.

Rhaid i chi atal ethanol, methanol neu sodiwm hydrocsid a ddefnyddir yn y broses trawsesteru ar gyfer olewau arlwyo gwastraff rhag achosi unrhyw lygredd tir, dŵr neu aer. Storiwch pob cemegolyn ar wahân, mor bell i fwrdd ag y bo modd o gyrsiau dŵr, mewn drymiau diogel, wedi’u labelu, dwrglos ac na fedrant ddiferu.

Rhaid i chi sicrhau fod pob glyserol a hidlwr gwastraff yn cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei waredu gan gwmni rheoli gwastraff trwyddedig.

Yn Lloegr a’r Alban, os ydych yn storio unrhyw fath o olew ar eich eiddo, yna gall fod yn rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau storio olew.

Yng Ngogledd Iwerddon a Chymru, dylech barhau i ystyried cwrdd â gofynion y Rheoliadau Storio Olew. Bydd hyn yn eich helpu i atal llygredd dŵr, sy’n drosedd o dan ddeddfwriaeth arall.

Storio olew

PPG2 Tanciau storio olew uwch ben y ddaear (Adobe PDF - 274KB)

Rhaid i chi sicrhau fod eich SWOBs yn cydymffurfio â deddfwriaeth awyr lân.
Rhaid i chi sicrhau nad yw arogleuon potensial o nwyon corn simnai neu dyllau awyr tanciau storio o danciau olew gwastraff yn creu niwsans statudol.

Os ydych yn defnyddio llosgydd anweddu , rhaid i chi archwilio’r allyriadau mwg bob wythnos.

Hidlwyr olew

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn tynnu pob olew gwastraff o hidlwyr olew cyn i anfon y metel sydd ar ôl i’w ailbrosesu. Rhaid i chi drin pob hidlwr olew gwastraff ac olew gwastraff fel gwastraff peryglus/arbennig.

 

Sicrhewch nad ydych yn gwneud unrhyw ollyngiad i mewn i garthffosydd cyhoeddus, dyfroedd wyneb neu ddŵr daear heb ymgynghori â’r rheolydd addas. Gall gollwng heb gaffael caniatâd neu awdurdodiad priodol fod yn drosedd a medrai arwain at weithrediadau gorfodi.

Elifiant masnach – gollyngiadau i garthffosydd

Llygredd dŵr

Os ydych yn cynhyrchu bio-disel, gallwch fod yn gymwys i dalu ffïoedd gostyngedig fel gosodiad effaith isel.

Arfer da

Sicrhewch fod eich llosgydd yn gweithredu mewn dull mor effeithlon ag y bo modd, drwy edrych am dyllau mewn seliau lle medrai aer gael mynediad i’r llosgydd. Medrai unrhyw gynnydd sydyn yn faint o olew byddwch yn ei ddefnyddio fod yn arwydd o dyllau mewn seliau  neu fod eich tanciau storio’n diferu.

Gwybodaeth bellach