Teiars

Beth sy'n rhaid i chi ei wneud

Ni ellir gwaredu y rhan fwyaf o deiars mwyach mewn safleoedd tirlenwi, er y gall teiars cyfan barhau i gael eu defnyddio gan safleoedd tirlenwi at bwrpasau peiriannu.

Gall teiars o gyfarpar trwm sydd â diamedr allanol o fwy na 1.4 medr barhau i gael eu gwaredu mewn safleoedd tirlenwi sydd â chaniatâd addas.

Os oes gennych chi deiars i’w gwaredu, gofynnwch wrth eich contractwr gwastraff am ddewisiadau gwaredu yn eich ardal chi.

Neu, er mwyn dod o hyd i gontractwyr yn eich ardal a all ailgylchu neu waredu teiars gwastraff, defnyddiwch y cyfarwyddiadur gwastraff.

Teiars wedi’u hailgylchu

Os yw eich busnes yn ailgylchu deunyddiau, ar neu oddi ar eich safle, rhaid i chi fodloni rheoliadau penodol er mwyn sicrhau eich bod yn ailgylchu mewn dull diogel a chyfreithlon.

Mae pen y daith ar hyn o bryd ar gyfer teiars gwastraff yn cynnwys:

  • ailwadnu teiars
  • ailddefnyddio teiars a dreuliwyd yn rhannol
  • peiriannu tirlenwi
  • eu hallforio i’w defnyddio dramor
  • tanwydd ( mewn odynau calch yn bennaf)
  • pentyrrau.

Mae WRAP, trwy ei raglen deiars, yn ceisio datblygu dulliau amgen terfynol o ddefnyddio teiars wedi’u hadennill a rwber wedi’i falu’n fân a gronynnog. Mae gwefan rhaglen teiars WRAP yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch ymchwil gyfredol a chyfleoedd i fod yn gyfrannog.