Mae’r Rheoliadau Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yn berthnasol i offer trydanol ac electronig (EEE) yn y categorïau a restrir isod gyda foltedd o hyd at 1000 folt ar gyfer cerrynt eiledol neu hyd at 1500 folt ar gyfer cerrynt uniongyrchol.
Bydd angen i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau WEEE os ydych yn cynhyrchu, trin neu waredu gwastraff sy’n dod o fewn un o ddeg categori o WEEE:
- Cyfarpar mawr ar gyfer y cartref
- Cyfarpar bach ar gyfer y cartref
- Offer TG a thelathrebu
- Offer defnyddwyr
- Offer goleuo
- Arfau trydanol ac electronig
- Teganau, offer hamdden a chwaraeon
- Dyfeisiau meddygol
- Offer monitro a rheoli
- Peiriannau gwerthu awtomatig.
Mae atodlen dau y Rheoliadau WEEE yn rhoi enghreifftiau o gynhyrchion sy’n dod o fewn y categorïau hyn.
Mae’r Rheoliadau WEEE yn berthnasol i fewnforwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr a defnyddwyr EEE, ac i fusnesau sy’n trin neu’n adennill WEEE.
Nod y rheoliadau yw i:
- leihau gwastraff o offer trydanol ac electronig
- annog casglu WEEE ar wahân
- annog trin, ailddefnyddio, adennill, ailgylchu a gwaredu WEEE mewn dull cadarn amgylcheddol
- gwneud cynhyrchwyr EEE yn gyfrifol am effaith eu cynhyrchion ar yr amgylchedd
- gwella perfformiad amgylcheddol pawb sy’n ymwneud â chylchred oes EEE.
Bydd eich rheolydd amgylcheddol yn gorfodi’r agweddau cyfrifoldeb y cynhyrchwr o’r rheoliadau WEEE yng nghyswllt casglu, gwaredu a phrosesu WEEE.
Y Rheoliadau Cyfyngu ar Sylweddau Peryglus
Nod y Rheoliadau Cyfyngu ar Sylweddau Peryglus (RoHS) yw i gwtogi cymaint ag a ellir ar ddefnyddio sylweddau peryglus penodol mewn EEE newydd. Mae’r gofynion yn berthnasol i wyth o’r deg categori o WEEE ac maent yn effeithio’n bennaf ar gynhyrchwyr EEE. Rhaid i gynhyrchwyr ddarparu tystiolaeth fod crynodiadau o ddeunyddiau peryglus yn eu cynhyrchion islaw lefelau wedi’u diffinio. Mae hyn yn cynnwys pob cydran a deunydd unigol.