Gwastraff trydanol ac electronig yw’r ffrwd wastraff sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Cynhyrchir oddeutu 1.8 miliwn tunnell ohono bob blwyddyn.
Nod y Rheoliadau Offer Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yw i leihau faint o’r gwastraff hwn sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a gwella cyfraddau adennill ac ailgylchu.
Bydd angen i chi gydymffurfio â’r Rheoliadau WEEE os ydych yn:
- gwneuthur neu fewnforio offer trydanol neu electronig
- dosbarthu offer trydanol neu electronig
- cynhyrchu unrhyw wastraff trydanol neu electronig
- casglu gwastraff trydanol neu electronig oddi wrth eich cwsmeriaid er mwyn ei drin neu ei waredu
- gweithredu cyfleuster trin gwastraff
- allforio gwastraff trydanol neu electronig.
Gallwch gael eich erlyn os ydych yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau.
Yn y ganllaw hon: